Opsiynau

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwario ychydig dros £4.8 miliwn yn ystod 2014/15 ar gefnogi cludiant ar gyfer addysg. Mae hyn yn cynnwys trefnu ac ariannu:

• Cludiant i ddisgyblion sy'n byw mwy na dwy filltir o'u hysgol gynradd briodol agosaf;
• Cludiant i ddisgyblion sy'n byw mwy na tair milltir o'u hysgol uwchradd briodol agosaf;
• Cludiant ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed sy'n byw mwy na thair milltir o'u coleg addas agosaf (megis Coleg Cambria) neu chweched dosbarth (megis Ysgol Maelor, Llannerch Banna, Ysgol Rhiwabon ac Ysgol Morgan Llwyd);
• Cludiant hebrwng ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd sydd ag anableddau, neu ddatganiad o angen addysgol, sydd angen cymorth i deithio i'r ysgol.

Mae cyfraniad Llywodraeth Cymru tuag at gefnogi cludiant addysg yn gostwng yn sylweddol, ond mae'r costau yn cynyddu gan fod nifer y disgyblion oed ysgol a'r disgyblion sy'n gymwys i gael cludiant hebrwng yn cynyddu. Yr unig agwedd ar gludiant addysg sy'n ddewisol (h.y. pethau nad oes yn rhaid i ni eu darparu yn ôl y gyfraith) yw cludiant ôl-16. Fel y cyfryw, mae'r Cyngor yn bwriadu newid y polisi cludiant ôl-16 i edrych ar ffyrdd o leihau’r £400,000 y flwyddyn y mae’n gwario ar y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd.



Mae pedwar opsiwn yn cael ei ystyried.

1. Cludiant cyfyngedig am ddim i sefydliadau o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn unig (gydag eithriadau cyfyngedig*).

Byddai hyn yn golygu y byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn darparu cludiant am ddim i fyfyrwyr sy’n byw Wrecsam sy'n mynychu:

• Coleg Cambria - Campws Iâl, Campws Ffordd y Bers, Campws Hyfforddiant Wrecsam
• Chweched dosbarth - Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Maelor Llannerch Banna, Ysgol Rhiwabon

* Yr eithriadau a nodwyd hyd yn hyn ydi Ysgol Uwchradd Bishop Heber (chweched dosbarth) o ardal Talwrn Green a Choleg Walford/Gogledd Swydd Amwythig o ardal y Waun. Byddai cludiant o'r ardaloedd hyn hefyd yn cael ei ddarparu i'r sefydliad perthnasol a nodir uchod, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.


2. Cyflwyno taliadau penodol ar gyfer cludiant o fewn neu’r tu allan i'r sir.

Byddai hyn yn golygu y byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gofyn am daliadau penodol gan fyfyrwyr ar gyfer cludiant i bob coleg ôl-16/ysgol chweched dosbarth. Byddai'r taliadau hyn yn amrywio o £180 y flwyddyn (o fewn y sir) i £300 y flwyddyn (sefydliadau y tu allan i'r sir).

Rhoddir ystyriaeth i ostyngiadau neu deithio am ddim i deuluoedd ar incwm isel, fel teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.


3. Rhoi arian i golegau i drefnu cludiant eu hunain

Byddai hyn yn golygu y byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhoi arian i golegau drefnu cludiant eu hunain ar gyfer eu myfyrwyr.

Dan yr opsiwn hwn, byddai'r Cyngor yn talu swm penodol i sefydliadau ar gyfer pob myfyriwr o Wrecsam sy’n mynychu eu sefydliad ac yn byw dros dair milltir i ffwrdd. Y sefydliadau eu hunain fyddai’n penderfynu sut y dylid gwario’r arian hwn ar ddarparu cludiant ar gyfer myfyrwyr. Byddai polisi cludiant unigol y sefydliadau yn nodi sefyllfaoedd lle cynigir cludiant am ddim neu'n rhatach, yn dibynnu ar eu cyllideb a’u blaenoriaethau, ac a oes ffi gweinyddu ar gyfer cludiant.

4. Peidio ag ariannu Cludiant Ôl-16

Byddai hyn yn golygu na fyddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn darparu cyllid ar gyfer cludo myfyrwyr ôl-16 sy'n mynychu colegau / ysgolion chweched dosbarth.

Dan yr opsiwn hwn byddai’r cludiant sydd ar gael a chost cludiant i golegau / ysgolion chweched dosbarth yn dibynnu ar bolisi cludiant y sefydliadau ac ar y gwasanaethau bws a ddarperir gan weithredwyr bysiau masnachol ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Er enghraifft, byddai gan y colegau / ysgolion chweched dosbarth y dewis i drefnu cludiant eu hunain ac i roi cymhorthdal tocynnau teithio er mwyn cynnig cludiant yn rhatach. Yn yr un modd, gallai gweithredwyr bysiau masnachol ddarparu llwybrau a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer myfyrwyr ar y cyd â cholegau / ysgolion chweched dosbarth a

T