
Arolwg Comisiynydd a Phartneriaid 2023/24 |
Mae cael eich adborth yn bwysig i ni yn PSS. Mae'n ein helpu i sicrhau datblygiad a thwf parhaus, ond yn bwysicaf oll, mae'n ein helpu i lunio'r gwasanaethau a'r cymorth a ddarparwn i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Byddem yn gwerthfawrogi os gallwch roi o’ch amser i ateb y cwestiynau yn yr arolwg hwn a dweud eich barn wrthym. A fyddech cystal â chwblhau’r arolwg hwn erbyn 30/04/2025.
Bydd yr adborth rydych chi'n ei roi i ni yn cael ei ddefnyddio i greu adroddiad arolwg blynyddol dienw sy'n ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a chynllunio ar gyfer beth y gallwn ei wella. Mae'r wybodaeth hon ar gael i unrhyw un y mae'n bwysig iddynt, gan gynnwys y bobl rydym yn eu cefnogi, eu teuluoedd, a gofalwyr Cysylltu Bywydau, yn ogystal â staff PSS, ein hymddiriedolwyr, comisiynwyr, a rheoleiddwyr fel Y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Am fwy o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich adborth a'ch data, ewch ihttps://psspeople.com/legal/yourdataprivacy .