Screen Reader Mode Icon
SICRHEWCH FOD EICH LLAIS YN CAEL EI GLYWED YMA ....

Cymerwch ran yn yr arolwg hwn dim ond os ydych yn derbyn y gwasanaeth glanhau ardaloedd cyffredin. Diolch

Os hoffech gael yr arolwg hwn mewn unrhyw fformat, cyfrwng neu iaith arall, mae croeso i chi ofyn i ateb drwy ffonio 01437 763688.

Rydym yn awyddus i glywed eich barn am agweddau penodol ar y gwasanaeth glanhau ardaloedd cyffredin a ddarperir gan ateb.

Drwy gwblhau’r arolwg hwn, byddwch yn ein helpu i weld a ydym yn diwallu eich anghenion. Os bydd yr arolwg yn dangos nad ydym yn gwneud hynny, ein nod yw newid ein ffyrdd er mwyn rhoi profiad gwell i chi.

Bydd y canlyniadau ar gael ar-lein ym mis Gorffennaf 2025.

Dyma gyfle i ddweud wrthym sut rydych yn teimlo...
Cofiwch gymryd eich amser i lenwi’r holiadur byr hwn ac achub ar y cyfle i ennill gwobr o £100!
BYDD YR AROLWG HWN AR AGOR TAN 31/05/25.

Question Title

1. Rwyf yn cael y gwasanaeth glanhau ardaloedd cyffredin gan ateb:

Question Title

2. Pa sgôr y byddech yn ei rhoi i’r gwasanaeth glanhau yr ydych yn ei gael gan ateb?

(Gwael = 1, Gweddol = 2, Ddim yn dda nac yn wael = 3, Da iawn = 4, Ardderchog = 5)

Question Title

3. A ydych yn gwybod ble mae cael gafael ar y manylebau glanhau ar gyfer eich ardaloedd cyffredin chi?

Question Title

4. Yn eich barn chi, a oes yna unrhyw dasg lanhau a ddylai gael ei chynnwys yn y manylebau presennol, nad yw wedi’i chynnwys ynddynt ar hyn o bryd?

(I weld y manylebau presennol, ewch i www.atebgroup.co.uk; yna ewch i ‘Ein Gwasanaethau’; yna ewch i ‘Esbonio eich rhent a’ch taliadau gwasanaeth’; ac yna sgroliwch i lawr i’r Manylebau Glanhau Ardaloedd Cyffredin)

Question Title

5. Os ‘Oes’ oedd eich ateb i Gwestiwn 4 uchod, pa dasg(au)?

Question Title

6. A ydych yn teimlo bod ein tîm wedi ymateb yn brydlon i unrhyw ymholiad a wnaethoch am wasanaeth glanhau ateb?

Question Title

7. A oes gennych unrhyw sylwadau pellach i’w gwneud ar y gwasanaeth glanhau ardaloedd cyffredin a ddarperir gan ateb?

Question Title

8. Ar ba stryd, bloc, cynllun neu stad ydych chi'n byw?

Question Title

9. Ydy hi'n iawn i ateb gysylltu â chi i ofyn am eich sylwadau?

Question Title

10. I’n helpu i ddeall a yw’r arolwg hwn yn gynhwysol, tybed a fyddech yn fodlon cadarnhau pa grŵp oedran yr ydych yn perthyn iddo (Dewisol)?

(Mae’n bosibl y bydd gofyn i ateb rannu’r data dienw hwn â Llywodraeth Cymru yn rhan o’i safonau ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Drwy nodi gwybodaeth yma, rydych yn cytuno i ganiatáu i ateb rannu’r data hwn â Llywodraeth Cymru.)

Question Title

11. Os oes aelod o staff yn cynnal yr arolwg hwn gyda chi, nodwch enw’r aelod o staff yma. Os nad oes aelod o staff gyda chi, gadewch hwn yn wag:

Question Title

12. Os hoffech gymryd rhan yn ein cystadleuaeth a chael cyfle i ennill gwerth £100 o dalebau ar-lein, nodwch eich enw, llinell gyntaf eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn yma: (Dim ond at ddibenion cymryd rhan yn y gystadleuaeth a/neu geisio datrys unrhyw broblemau sydd wedi’u dwyn i’n sylw drwy’r arolwg hwn y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth, a bydd yn cael ei dinistrio cyn pen 4 mis.) Byddwn yn cysylltu â’r enillydd yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 09/06/25.

CANLYNIADAU: I weld beth a ddatgelwyd gan yr arolwg hwn, mae croeso i chi fynychu cyfarfod ein Grŵp Cynllunio Arolygon ar-lein, a gynhelir ddydd Mawrth, 10 Mehefin 2025 rhwng o 10:00 tan 11:00. Cysylltwch ag Ali Evans 01437 774766 / 07500 446611 / engage@atebgroup.co.uk i gael dolen gyswllt ar gyfer y fforwm hwn neu i gael copi o’r canlyniadau mewn fformat arall.

Bydd yr adroddiad llawn, sy’n dangos canlyniadau’r arolwg hwn, ar gael ar ein gwefan ym mis Gorffenaf 2025, ar dudalen Cymryd Rhan

Bydd yr arolwg hwn yn cau am 24:00, ar 30/05/25

MAE EICH BARN YN BWYSIG – DIOLCH AM SIARAD AG ATEB
0 of 32 answered