Screen Reader Mode Icon
SICRHEWCH FOD EICH LLAIS YN CAEL EI GLYWED YMA ....

Os hoffech gael yr arolwg hwn mewn unrhyw fformat, cyfrwng neu iaith arall, mae croeso i chi ofyn i ateb drwy ffonio 01437 763688.

Bob blwyddyn, mae angen i ni gael gwybod gennych a ydych yn credu bod y rhent yr ydym yn ei godi arnoch yn cynnig gwerth am arian ...

Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu rhannu a’u hystyried gan Fwrdd ateb wrth bennu lefelau’r rhenti a godir o fis Ebrill 2025 ymlaen.

Bydd y canlyniadau ar gael ym mis Tachwedd 2025.

Dyma gyfle i ddweud wrthym sut rydych yn teimlo...
Cofiwch gymryd eich amser i lenwi’r holiadur byr hwn ac achub ar y cyfle i ennill gwobr o £100!
BYDD YR AROLWG HWN AR AGOR TAN 09:00, 11/11/24.

Question Title

1. Pa mor fodlon/anfodlon ydych chi bod eich rhent yn cynnig gwerth am arian?

Question Title

2. Pa mor fodlon/anfodlon ydych chi bod eich taliadau gwasanaeth yn cynnig gwerth am arian?

Question Title

3. Sut rydych yn talu eich rhent?

Question Title

4. Unrhyw sylwadau pellach ar bris rhent neu daliadau gwasanaeth?

Question Title

5. I’n helpu i ddeall a yw’r arolwg hwn yn gynhwysol, tybed a fyddech yn fodlon cadarnhau pa grŵp oedran yr ydych yn perthyn iddo (Dewisol)?

(Mae’n bosibl y bydd gofyn i ateb rannu’r data dienw hwn â Llywodraeth Cymru yn rhan o’i safonau ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Drwy nodi gwybodaeth yma, rydych yn cytuno i ganiatáu i ateb rannu’r data hwn â Llywodraeth Cymru.)

Question Title

6. Os oes aelod o staff yn cynnal yr arolwg hwn gyda chi, nodwch enw’r aelod o staff yma. Os nad oes aelod o staff gyda chi, gadewch hwn yn wag:

Question Title

7. Os hoffech gymryd rhan yn ein cystadleuaeth a chael cyfle i ennill gwerth £100 o dalebau ar-lein, nodwch eich enw, llinell gyntaf eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn yma: (Dim ond at ddibenion cymryd rhan yn y gystadleuaeth a/neu geisio datrys unrhyw broblemau sydd wedi’u dwyn i’n sylw drwy’r arolwg hwn y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth, a bydd yn cael ei dinistrio cyn pen 4 mis.) Byddwn yn cysylltu â’r enillydd yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 10/12/24.

CANLYNIADAU: I weld beth a ddatgelwyd gan yr arolwg hwn, mae croeso i chi fynychu cyfarfod ein Grŵp Cynllunio Arolygon ar-lein, a gynhelir ddydd Mawrth, 10 Rhagfyr 2024 rhwng o 10:00 tan 11:00. Cysylltwch ag Ali Evans 01437 774766 / 07500 446611 / engage@atebgroup.co.uk i gael dolen gyswllt ar gyfer y fforwm hwn neu i gael copi o’r canlyniadau mewn fformat arall.

Bydd yr adroddiad llawn, sy’n dangos canlyniadau’r arolwg hwn, ar gael ar ein gwefan ym mis Rhagfyr 2024, ar dudalen Cymryd Rhan

Bydd yr arolwg hwn yn cau am 09:00, ar 11/11/24

MAE EICH BARN YN BWYSIG – DIOLCH AM SIARAD AG ATEB
0 of 27 answered
 

T