Screen Reader Mode Icon

1. Ynglŷn â’r Ymgynghoriad

Ar hyn o bryd, mae’r arfer o brynu’n newydd, defnyddio am gyfnod byr, a gwaredu yn un cyffredin yng Nghymru, ac felly hefyd yng ngweddill y DU a gwleddoedd Gorllewinol cefnog eraill.
Er bod cynhyrchu nwyddau, fel dillad, ffonau ac eitemau i’r cartref ar raddfa fawr wedi golygu mwy o amrywiaeth, llai o gost, a gwell hygyrchedd, mae hefyd wedi arwain at niwed sylweddol i’r amgylchedd. Yn fyd-eang, gellir 45% cysylltu o allyriadau i’r model ‘cymryd-gwneud-defnyddio-gwaredu-ailadrodd’ hwn.
Mae’r ‘Strategaeth Mwy nag Ailgylchu’ yng Nghymru’n anelu at newid y sefyllfa hon drwy symud tuag at “ddiwylliant cyffredinol o ailddefnyddio, atgyweirio ac ailweithgynhyrchu yn ein cymunedau a chanol ein trefi”. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2026 yn ymrwymo i ddatblygu “80 o ganolfannau ailgylchu cymunedol mewn canol trefi” a “hyrwyddo cyfleusterau atgyweirio ac ailddefnyddio i annog siopa diwastraff.”
Fel rhan o’r prosiect atgyweirio ac ailddefnyddio ehangach hwn, fe gomisiynodd Llywodraeth Cymru WRAP i gynnal ymchwil a llunio set o gamau y mae eu hangen i’n symud tuag at ddiwylliant cyffredinol o atgyweirio ac ailgylchu. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r camau gweithredu uniongyrchol y mae eu hangen ar gyfer meithrin diwylliant o atgyweirio ac ailgylchu yng Nghymru, gan bwysleisio’r angen am gyfrifoldeb a gweithredu y tu hwnt i’r llywodraeth. (Dolen)
Nod yr arolwg hwn yw gwahodd preswylwyr, busnesau a sefydliadau Cymru i roi adborth gwerthfawr ar y Ddogfen Crynodeb ar gyfer yr Ymgynghoriad. Mae eich dirnadaethau’n hollbwysig ar gyfer sicrhau bod y Map Trywydd Atgyweirio ac Ailddefnyddio’n ategu anghenion a dyheadau Cymru.
Yn yr arolwg hwn, byddwn yn gofyn ichi adolygu a rhannu eich meddyliau am amrywiol agweddau ar y ddogfen. Mae eich llais yn bwysig. Diolch i chi am roi’r amser i gyfrannu at y broses ymgynghori hollbwysig hon.
0 of 40 answered
 

T