Cronfa Ysgoloriaethau Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd |
Cyn i chi ymgeisio
Sicrhewch eich bod wedi darllen ein gwybodaeth am Ysgoloriaethau Tŷ Newydd, gan gynnwys Telerau ac Amodau, ar ein gwefan.
Sylwch y bydd angen i chi ofyn am gymorth ariannol cyn archebu cwrs neu encil. Ni ellir ystyried ceisiadau am ysgoloriaeth ar ôl i archeb gael ei wneud.
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y broses cyn cyflwyno, neu’n gyffredinol am eich gyrfa fel awdur, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm cyfeillgar o staff:
tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522811
Meini Prawf
Nodwch y meini prawf cymhwysedd canlynol:
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn breswylwyr yng Nghymru a rhaid iddynt fod yn 18 oed neu'n hŷn.
- Cyfyngir ysgoloriaethau i un y person y flwyddyn, a bydd ymgeiswyr nad ydynt wedi derbyn ysgoloriaeth yn y gorffennol yn cael eu blaenoriaethu. Byddwn hefyd yn blaenoriaethu’r rhai nad ydynt wedi derbyn unrhyw gyllid arall (gan gynnwys ysgoloriaethau, grantiau neu ffioedd) gan Llenyddiaeth Cymru yn y 12 mis diwethaf.
- Mae ysgoloriaethau ar gyfer yr ymgeiswyr rheiny sydd ar incwm isel.
- Mae'r ysgoloriaethau hyn yn benodol ar gyfer galluogi awduron i fynychu cwrs ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd.
- Rhoddir blaenoriaeth i’r rhai sy’n dangos eu bod yn cyd-fynd â, neu’n gallu cyfrannu tuag at, brosiectau, blaenoriaethau tactegol a nodau strategol Llenyddiaeth Cymru.