Fy Nghyfrif ateb

Os hoffech gael yr arolwg hwn mewn unrhyw fformat neu iaith arall, mae croeso i chi gysylltu ag ateb

Dyma gyfle i chi ddweud eich dweud....

Diben yr arolwg:
Rydym yn ymchwilio i’r modd y mae ein cwsmeriaid yn defnyddio Fy Nghyfrif ateb, a hoffem glywed eich barn er mwyn i ni allu gwella’r cyfrif.
Mae a wnelo Fy Nghyfrif ateb â chi – mae’n golygu bod eich cofnodion personol a’ch ceisiadau unigol i gyd mewn un man y mae’n hawdd mynd iddo.
Cymerwch eich amser i lenwi’r holiadur byr hwn, a chofiwch achub ar y cyfle i ennill gwobr gwerth £100 ar y diwedd.
Bydd yr arolwg hwn ar agor tan 31/05/24


1.Ydych chi’n defnyddio Fy Nghyfrif ateb?
2.Os Ydw oedd eich ateb, at ba ddibenion yr ydych yn ei ddefnyddio?
3.Os Nac ydw oedd eich ateb, beth sydd yn eich atal rhag ei ddefnyddio?
4.Yn eich barn chi, yw Fy Nghyfrif ateb yn hawdd i’w ddefnyddio?
5.Os Ydy oedd eich ateb, nodwch sut y mae’n hawdd i’w ddefnyddio:
6.Os Nac ydy oedd eich ateb, nodwch sut y mae’n anodd i’w ddefnyddio:
7.Pe baech yn cael help i gofrestru ac i ddefnyddio Fy Nghyfrif ateb, fyddech chi’n fodlon rhoi cynnig ar ei ddefnyddio?
8.Os Byddwn oedd eich ateb, sut y byddech yn hoffi cael yr help hwnnw?
9.Os hoffech i ni gysylltu â chi i ddarparu’r help hwn, nodwch eich manylion cyswllt yma:
10.Beth y byddai modd ei ychwanegu i wneud Fy Nghyfrif ateb yn fwy defnyddiol?
11.I’n helpu i ddeall a yw’r arolwg hwn yn gynhwysol, tybed a fyddech yn fodlon cadarnhau pa grŵp oedran yr ydych yn perthyn iddo (Dewisol)?

(Mae’n bosibl y bydd gofyn i ateb rannu’r data dienw hwn â Llywodraeth Cymru yn rhan o’i safonau ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Drwy nodi gwybodaeth yma, rydych yn cytuno i ganiatáu i ateb rannu’r data hwn â Llywodraeth Cymru.)
12.Os oes aelod o staff yn cynnal yr arolwg hwn gyda chi, nodwch enw’r aelod o staff yma. Os nad oes aelod o staff gyda chi, gadewch hwn yn wag:
13.Os hoffech gymryd rhan yn ein cystadleuaeth a chael cyfle i ennill gwerth £100 o dalebau ar-lein, nodwch eich enw, llinell gyntaf eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn yma: (Dim ond at ddibenion cymryd rhan yn y gystadleuaeth a/neu geisio datrys unrhyw broblemau sydd wedi’u dwyn i’n sylw drwy’r arolwg hwn y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth, a bydd yn cael ei dinistrio cyn pen 4 mis.) Byddwn yn cysylltu â’r enillydd yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 17/06/24.
CANLYNIADAU: I weld beth a ddatgelwyd gan yr arolwg hwn, mae croeso i chi fynychu cyfarfod ein Grŵp Cynllunio Arolygon ar-lein, a gynhelir ddydd Mawrth 11 Mehefin 2024 rhwng 10:00 ac 11:00. Cysylltwch ag Ali Evans 01437 774766 / 07500 446611 / engage@atebgroup.co.uk i gael dolen gyswllt ar gyfer y fforwm hwn neu i gael copi o’r canlyniadau mewn fformat arall.

Bydd adroddiad llawn sy’n dangos canlyniadau’r arolwg hwn ar gael ar ein gwefan ym mis Medi 2024, ar dudalen Newyddion

Bydd yr arolwg hwn yn cau am 16:00 ar 31/05/24

MAE EICH BARN YN BWYSIG – DIOLCH AM SIARAD AG ATEB
Current Progress,
0 of 13 answered