Llyfr y Flwyddyn: Ffurflen Cais Digwyddiadau Awdur 2024 |
Gweinyddir y nawdd hwn gan Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru, diolch i nawdd gan Grant Cynulleidfaoedd Newydd, ac fe’i bwriedir i gefnogi ffioedd a threuliau awduron mewn digwyddiadau sy’n cynnwys awduron sydd ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024.
Rhaid cynnal y digwyddiadau rhwng 12 Mai a 30 Tachwedd 2024. Mae £4,000 o nawdd ar gael, a rhaid i chi ymgeisio cyn Dydd Gwener 27 Mehefin.
Cynhelir cyfarfodydd panel ar 20 Mai, 10 Mehefin a 1 Gorffennaf, ac fe ddosberthir y nawdd i ddigwyddiadau cymwys yn ôl y cyntaf i’r felin, felly ymgeisiwch cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda. Os hoffech drafod eich cynlluniau ar gyfer digwyddiad, a wnewch chi gysylltu gydag arwel.jones@llyfrau.cymru neu claire@llenyddiaethcymru.org
Os ydych am ymgeisio am nawdd ar gyfer digwyddiad llenyddol gwahanol, a wnewch chi anfon cais at Gronfa Ysbrydoli Cymunedau.
Gwnewch yn siŵr fod gennych yr holl fanylion perthnasol wrth law cyn i chi ddechrau eich cais: dyddiad(au), amser(oedd), lleoliad(au), enwau awduron, ffioedd a threuliau awduron, manylion y digwyddiad. Ni fydd modd cadw eich cais a dychwelyd ato yn nes ymlaen.