Arolwg FCN Cymru – canser mewn cymunedau amaethyddol a gwledig
Mae The Farming Community Network (FCN Cymru) (Rhif Elusen Gofrestredig 1095919) yn cydweithio mewn partneriaeth â Chymorth Canser Macmillan i godi ymwybyddiaeth o ganser mewn cymunedau ffermio a gwledig, ac i wella’r gefnogaeth i bobl y mae canser yn effeithio arnynt. Drwy gymryd amser i lenwi’r arolwg hwn, rydych yn ein cynorthwyo i ddeall yn well y darpariaethau gwasanaeth presennol mewn ardaloedd gwledig, a chynnig argymhellion ar gyfer meysydd i’w gwella. Mae croeso i bawb lenwi'r arolwg hwn, p'un a ydych chi'n bersonol wedi cael diagnosis o ganser ai peidio.
Dylai'r arolwg hwn gymryd tua 10 munud i'w lenwi. Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir yn cael ei chadw'n gyfrinachol.
Diolch i chi am gymryd amser i lenwi’r arolwg.