Ymgynghori ar gynigion i ddiwygio/datblygu'r cymhwyster Lefel 3 Sylfaen mewn Celf a Dylunio presennol |
Strwythur a chynnwys
Rydym yn diweddaru ein cymhwyster Lefel 3 Sylfaen mewn Celf a Dylunio i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gyfredol, yn ystyried newidiadau yn y sector ac adborth gan ganolfannau.
Rydym yn holi barn canolfannau ar hyn o bryd ynghylch ein cynigion ar lefel uchel. Bydd adborth o'r cam hwn yn helpu i lywio cynnwys terfynol y cymhwyster.
Ynglŷn â'r cymhwyster
Bydd cymhwyster CBAC Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn parhau i fod yn Gymhwyster Lefel 3 dynamig, cwmpasol, allweddol a luniwyd i bontio rhwng addysg gyffredinol ac addysg celf, crefft a dylunio arbenigol; gan alluogi'r dysgwr i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth wrth gyflwyno cais i addysg uwch neu gyflogaeth mewn diwydiant perthynol.
Prif nod y cymhwyster yw darparu cyd-destun lle gall dysgwyr ddefnyddio'u gwybodaeth flaenorol, gan nodi a dehongli eu cryfderau a'r llwybrau dilyniant arbenigol mwyaf addas. Defnyddir proses o archwilio diagnostig a chynyddol o'r dulliau a'r cysyniadau sy'n benodol i Gelf, Crefft a Dylunio i gyflawni hyn. Mae'n estyn eu hannibyniaeth feirniadol ac yn galluogi dysgwyr i ddangos eu dealltwriaeth lawn o'r safonau perthnasol sy'n ofynnol i sicrhau dilyniant arbenigol. Gan fod modd dewis o fwy na chant o wahanol ddisgyblaethau israddedig ym meysydd celf, crefft a dylunio, mae cymhwyster CBAC Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn helpu dysgwyr i ddewis yn briodol ac yn eu paratoi ar gyfer Addysg Uwch neu gyflogaeth yn y dyfodol yn y disgyblaethau creadigol gweledol.