Cymryd rhan mewn ymchwil i’n helpu i wella’r gwasanaeth cyngor cyn gwneud cais cynllunio yng Nghymru |
Diolch i chi am gymryd yr amser I gwblhau'r arolwg hwn
Mae Llywodraeth Cymru a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn ymchwil i helpu i wella’r gwasanaeth cyngor cyn gwneud cais cynllunio yng Nghymru.
Cynhelir y sesiynau ymchwil ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2024 ac ni ddylai bara mwy na 45 munud. Gellir cynnal y sesiynau naill ai o bell (trwy Zoom neu MS Teams) neu'n bersonol yn dibynnu ar eich dewis.
I gymryd rhan yn yr ymchwil, rhaid eich bod wedi gwneud cais am gyngor cyn gwneud cais cynllunio a/neu cais am ganiatâd cynllunio yn ystod y 12 mis diwethaf.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymchwil, cysylltwch â user.research@digitalpublicservices.gov.wales.