Screen Reader Mode Icon

Rhagymadrodd

Mae ein Cynllun Gwella Blynyddol diweddaraf yn edrych yn ôl ar ein cyflawniadau yn 2023-2024 ac ymlaen at ein cynlluniau ar gyfer 2025-2026 a fydd yn ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth o gadw De Cymru yn ddiogel trwy leihau risg.

Er mwyn ein helpu i flaenoriaethu ein gwaith, hoffem gael eich barn ar yr hyn sy’n bwysicaf i chi a pha feysydd gweithredu yr hoffech i ni ganolbwyntio arnynt. Byddem yn gwerthfawrogi'n fawr pe baech yn darllen y crynodeb hwn o'n hamcanion a'n cynlluniau arfaethedig ac yna'n cwblhau'r arolwg byr isod. Gallwch hefyd ddarllen ein cynllun llawn yma.

Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg hwn yw’r 24eg o Ionawr 2025.


Diogelu Data


Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn prosesu ac yn diogelu eich gwybodaeth bersonol yn ofalus, yn unol â chyfreithiau Diogelu Data. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am eich preifatrwydd data a sut mae GTADC yn defnyddio data, mae croeso i chi gysylltu â: diogeludata@decymru-tan.gov.uk neu ewch i: Diogelu Data GTADC. Defnyddiwch y ddolen hon ar gyfer datganiad preifatrwydd Survey Monkey.

Nid yw'r arolwg hwn yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol nac yn casglu data megis cyfeiriad IP a allai eich adnabod, ond mae gennych yr opsiwn i ddarparu manylion ychwanegol ar gyfer rhai cwestiynau. Os dewiswch wneud hyn, dylech osgoi cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol neu fanylion a allai ddatgelu pwy ydych chi.

Bydd gennych opsiwn i ddarparu eich manylion cyswllt ai beidio fel y gallwn eich cynnwys mewn ymgynghoriadau tebyg yn y dyfodol. Rydym yn dibynnu ar eich caniatâd i gasglu a defnyddio’r wybodaeth hon a dim ond at y diben(ion) a nodir y caiff ei defnyddio ac ni chaiff ei rhannu.

Bydd gennych hefyd opsiwn i ddarparu gwybodaeth yn ymwneud â’ch nodweddion gwarchodedig, e.e., oedran, ethnigrwydd, a chrefydd. Gallwch ddewis a ydych chi am ddarparu'r manylion hyn. Os felly, caiff ei ddefnyddio ar gyfer dadansoddi ystadegol a monitro ein cynlluniau cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Bydd canlyniadau’r arolygon yn cael eu defnyddio i'n helpu ni i ddiffinio ein gweithgareddau yn y dyfodol a gwneud De Cymru yn ddiogelach i bawb. Bydd y data a gesglir yn cael ei gadw am dair blynedd ar ôl i'r arolwg ddod i ben. Dim ond staff awdurdodedig fydd â mynediad at wybodaeth arolwg, ac maent yn cael eu gwirio o ran diogelu data yn rheolaidd.
0 o 27 wedi eu hateb
 

T