Polisi Casglu Data a Phreifatrwydd
Sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd gennych:
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i lywio'r prosiect a bydd hefyd yn cael ei chynnwys fel rhan o'r adroddiad PAC wrth gyflwyno'r cais cynllunio. Ni fyddwn yn rhannu unrhyw fanylion personol fel rhan o’r adroddiad PAC sydd i'w weld ar y porth ceisiadau cynllunio perthnasol.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu:
Rydyn ni’n prosesu eich gwybodaeth bersonol ar sail eich buddiant dilys mewn derbyn diweddariadau am y prosiect. Mae'r buddiant dilys hwn yn cael ei gydbwyso gyda’ch hawl i breifatrwydd, ac rydyn ni wedi cymryd camau priodol i sicrhau bod ein dull prosesu yn deg ac yn dryloyw.
Eich hawliau chi:
Mae gennych yr hawliau canlynol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR):
Mynediad: Mae gennych hawl i ofyn am gopi o'ch gwybodaeth bersonol.
Cywiro: Os ydych chi'n credu bod eich gwybodaeth bersonol yn anghywir, mae gennych hawl i ofyn iddi gael ei chywiro.
Dileu: Dan rai amgylchiadau, mae gennych hawl i ofyn i'ch gwybodaeth bersonol gael ei dileu.
Cyfyngu ar brosesu: Dan rai amgylchiadau, mae gennych hawl i ofyn am gyfyngiad ar sut y prosesir eich data personol.
Cludadwyedd data:
Dan rai amgylchiadau, mae gennych hawl i ofyn i'ch gwybodaeth bersonol gael ei throsglwyddo i sefydliad arall.
Gwrthwynebiad:
Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol.
Os ydych am arfer unrhyw un neu rai o'r hawliau hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy'r manylion uchod.
Manylion cyswllt:
Parc Ynni Calon y Gwynt
Wind 2
Linden House
Parc Busnes yr Wyddgrug
Mold
Sir y Fflint
CH7 1XP
Rhif ffôn: 01352 748 300