Helpwch ddylunio SherlockAI, sef ap i gefnogi'r rhai sy'n gysylltiedig â'r system cyfiawnder troseddol |
Helpwch ni i helpu eraill
Rydym wrthi’n dylunio SherlockAI, ac eisiau gwybod a ydych chi'n meddwl ei fod yn syniad da.
Mae SherlockAI yn cael ei greu i helpu merched yng Nghymru sy'n delio â'r system cyfiawnder troseddol, naill ai'n uniongyrchol neu drwy aelod o'r teulu. Mae'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio a bydd ar gael ar eich ffôn neu gyfrifiadur. Wedi'i redeg nid-ar-elw, mae SherlockAI fel ffrind cefnogol, bob amser yno i wrando a deall beth sydd ei angen arnoch chi.
Dyma fideo byr sy’n esbonio'r hyn y mae SherlockAI yn ei olygu: Fideo SherlockAI
Yn hytrach na dim ond eich cyfeirio at wasanaethau eraill, mae SherlockAI yn gweithio gyda chi i gynnig arweiniad personol, cefnogaeth emosiynol, a nodiadau atgoffa ar gyfer apwyntiadau. Mae'n eich helpu i ddod o hyd i wasanaethau sy'n cyd-fynd â'ch sefyllfa, yn esbonio pethau'n glir, ac yn aros wrth eich ymyl rownd y rîl. Yn anad dim, mae SherlockAI yn parchu eich preifatrwydd - mae popeth rydych chi'n ei rannu yn gwbl gyfrinachol.
Rydym eisiau sicrhau y bydd SherlockAI yn ddefnyddiol. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn ac a yw hyn yn rhywbeth y byddech chi’n ei ddefnyddio. Mae eich adborth yn bwysig i ni wrth i ni lunio SherlockAI yn offeryn sy'n gefn gwirioneddol i chi.