Arolwg Gwirfoddolwyr 2024 |
Arolwg Gwirfoddolwyr 2024
Diolch am roi o'ch amser i lenwi'r arolwg hwn.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ganfod beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd ddim. Er mwyn gwella a darparu profiad gwirfoddoli cadarnhaol gyda’r BMC i wirfoddolwyr y dyfodol, hoffem gasglu eich adborth drwy’r arolwg hwn.
I bawb sydd wedi gwirfoddoli neu sy’n dal i wirfoddoli gyda ni, rydym yn gwerthfawrogi’r amser a’r ymdrech rydych chi wedi’u neilltuo i gefnogi’r BMC. I’r rheini sydd wedi ystyried gwirfoddoli ond heb gymryd y camau cyntaf neu sydd ddim erioed wedi meddwl am wirfoddoli, mae eich adborth yr un mor werthfawr.
Hoffem hefyd ddeall demograffeg ein gwirfoddolwyr. Byddai’n help mawr pe gallech hefyd gwblhau’r adran olaf er mwyn i ni gael gwell dealltwriaeth.
Mae'r arolwg yn ddienw a bydd eich canlyniadau yn ein galluogi i fonitro tueddiadau a llywio strategaethau a phrosiectau yn y dyfodol.
I ddiolch i chi am roi o'ch amser i gwblhau'r arolwg hwn, hoffem allu eich cynnwys mewn raffl i ennill cerdyn anrheg £50 i bawb. Os hoffech gael eich cynnwys yn y raffl, rhowch eich cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg. (Ni fydd hyn yn effeithio ar anhysbysrwydd yr arolwg hwn)
Os oes gen gwestiwn asterix mae angen ateb.