Gwybodaeth Awdur - ceisiadau Sgwennu'n Well |
Cofnodi Data Awduron - Llenyddiaeth Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig cefnogaeth a chyfleoedd i awduron ledled Cymru. Er mwyn sicrhau ein bod yn eich gwasanaethau yn y modd gorau un, byddai'n ddefnyddiol iawn i ni allu cadw peth o'ch data personol ar gofnod.
Mae'r ffurflen isod yn gofyn ichi am y data y credwn y byddai'n ddefnyddiol gwybod amdanoch chi, a byddem yn ddiolchgar pe gallech lenwi cymaint o hwn ag y teimlwch yn gyfforddus ag o. Gallwch adael unrhyw gwestiwn yn wag, pe dymunwch.
Mae llawer o ffyrdd y bydd y data hwn yn ddefnyddiol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Cadw golwg ar y cyfleoedd y mae awduron wedi gwneud cais amdanynt, er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig cymorth/cyfeirio amgen addas
- Rhoi gwybod i chi am brosiectau y gallech fod â diddordeb ynddynt/yn addas ar eu cyfer. Er enghraifft, os daw partner atom gyda chyfle i feirdd Cymraeg eu hiaith sydd wedi’u lleoli ger Penfro, byddwn yn gallu anfon hwnnw ymlaen at lenorion y mae’n addas ar eu cyfer.
- Cadw golwg ar bwy sydd wedi elwa o gefnogaeth Llenyddiaeth Cymru a gallu adrodd ar hyn i’n cyllidwyr.
- Rhannu'r manylion cyswllt diweddaraf ar draws ein tîm.
Wrth gwrs, yn unol â GDPR, byddwn yn storio eich data yn ddiogel ac yn ei ddefnyddio ar gyfer anghenion busnes cyfreithlon yn unig. Ni fyddwn yn gwerthu eich data i drydydd parti.
Mae hyn yn golygu nad ydym yn cael trosglwyddo eich manylion, hyd yn oed os yw hynny i sefydliad sydd efallai eisiau cynnig gweithdy neu gomisiwn i chi. Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cyfeirio sefydliadau eraill atoch, byddem yn argymell eich bod yn cofrestru ar gyfer ein Rhestr Awduron Cymru. Rydyn ni'n gwerthfawrogi ei bod hi'n ffurflen arall i’w llenwi, ond mae'n rhad ac am ddim, yn hawdd ac yn ffordd o adael i bobl sydd â diddordeb yn eich gwaith ddod o hyd i chi a chysylltu.
Gallwch ddad-danysgrifio o’n post ar unrhyw adeg, a gallwch wneud cais i ddileu eich data o’n cronfa ddata drwy gysylltu â data@llenyddiaethcymru.org