Rydym yn y broses o ystyried opsiynau o ran gwneud gwelliannau i menter
gymunedol a siop ail-lenwi amgylcheddol Y Tŷ Gwyrdd yn Ninbych, er mwyn medru darparu cyfleusterau gwell a gofod addas i gynnal ystod o weithgareddau, gwasanaethau a phrosiectau newydd.
gymunedol a siop ail-lenwi amgylcheddol Y Tŷ Gwyrdd yn Ninbych, er mwyn medru darparu cyfleusterau gwell a gofod addas i gynnal ystod o weithgareddau, gwasanaethau a phrosiectau newydd.
Rydym wedi ein lleoli ar Lôn Gefn yn yr adeilad oedd yn arfer bod yn Threads ac mae gennym gyfle i brynu’r adeilad at ddefnydd cymunedol hirdymor.
Mae arnom angen eich cymorth CHI gyda cam nesaf datblygu’r prosiect a’ch barn am beth ddylai’r blaenoriaethau fod wrth i ni symud ymlaen gyda chynlluniau. Bydd eich sylwadau’n gymorth i gefnogi ein ceisiadau am gyllid i’n cynorthwyo i brynu Threads (Lôn Gefn, Dinbych) ar gyfer defnydd cymunedol ac i wireddu unrhyw waith addasu a gwelliannau i’r adeilad.
Rydym angen casglu cymaint o ymatebion â phosib, felly os gwelwch yn dda rhannwch yr holiadur gyda ffrindiau a theulu. Diolch am eich cymorth.