Y Pair: Llyfryddiaeth ddigidol o weithiau llên Cymraeg sy’n ymdrin â llesiant, i ysgogi ac i gefnogi gweithdai a phrosiectau creadigol |
Y Pair
Mae Llenyddiaeth Cymru yn awyddus i greu llyfryddiaeth ddigidol o weithiau llên Cymraeg sy’n cefnogi llesiant. Byddwn yn creu cronfa ddigidol o’r dyfyniadau byr a fydd yn adnodd ar gyfer arweinwyr gweithdai llesiant creadigol yn y gymuned drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hefyd yn hyrwyddo a dathlu gwaith beirdd a llenorion sy’n ymdrin â llesiant fel thema.
Bydd modd:
- Chwilio am ddyfyniad ar thema e.e. galar, y tymhorau neu byd natur
- Dod o hyd i gofnod gyda dyfyniad byr yn flas o'r darn llên
- Mynd i'r llyfrgell, y siop lyfrau neu at yr adnodd ar-lein i ddod o hyd i'r darn o lenyddiaeth cyflawn er mwyn ei ddefnyddio mewn gweithdy. **Rhaid sicrhau fod rheolau hawlfraint yn cael eu parchu.
Rydym yn ddiolchgar am eich cymorth wrth greu’r gronfa hon. I gyfrannu dyfyniad(au), llenwch y ffurflen syml isod.